P-03-309 Caerdydd yn erbyn y llosgydd
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymyrryd â stopio’r cynllun llosgydd sy’n cael ei gynnig gan Virador. Fel trigolion yng Nghymru, rydym o’r farn y bydd y cynllun hwn yn niweidiol i’n lles a’n iechyd ni a’n plant.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Rick Newnham
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: Tachwedd 2010
Nifer y llofnodion: 2,203